Grŵp Trawsbleidiol Deddf Aer Glân i Gymru

Microsoft Teams

27 Chwefror 2023, 10.00-11.00

Yn bresennol:

 

Aelodau o’r Senedd:

Huw Irranca-Davies AS

 

Rhai nad ydynt yn Aelodau o’r Senedd

Joseph Carter

Katherine Lowther

Antonia Fabian

Jason Bale

Ioan Bellin

Huw Brunt

Chloe Corbyn

Yvonne Forsey

Gemma Roberts

Gwenda Owen

Haf Elgar

Hannah Peeler

Francesca Howarth

Joe Thomas

Josephine Cock

Hannah Morgan

Paul Lewis

Rebeca Ahmed

Olwen Spillar

Tom Price

Caro Wild

Rhian Williams

Paul Willis

Cyng Neil Lewis

Sophie O'Connell

Mathew Norman

Y Cyng Jackie Charlton

 

 

1.       Croeso a chyflwyniadau – Huw-Irranca Davies AS

Croesawodd Huw Irranca-Davies y rhai a oedd yn bresennol i’r cyfarfod, a gwnaed cyflwyniadau i Aelodau o’r Senedd.

 

2.       Cofnodion y cyfarfod diwethaf – Huw-Irranca Davies AS

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod yn ffurfiol ar ôl y cyfarfod.

 

3.       Materion yn codi - Joseph Carter, Awyr Iach Cymru.

Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

4.       Yr Athro Paul Lewis – Llosgi Domestig yng Nghymru

Mae hylosgi domestig yn ffynhonnell bwysig o allyriadau deunydd gronynnol (“PM”). Yn 2021, roedd yn cyfrif am 27 y cant o allyriadau PM2.5 ac 16 y cant o allyriadau PM10.

 

Mae llosgi coed yn cyfrannu'n fawr at lygredd gronynnau. Yn 2021, roedd y defnydd o bren yn cyfrif am 75 y cant o allyriadau PM2.5. Mae gan 8 y cant o gartrefi losgwyr coed.

 

Prif ffynonellau llosgi domestig:

Dan do - stofiau llosgi coed, coginio

Awyr agored – barbeciws, coelcerthi

 

Caerdydd yw'r lleoliad lle mae llosgi coed yn cyfrannu fwyaf at PM2.5.

 

Cynigion ar reoli mwg i’w cynnwys yn y Bil:

·         Cynnwys deddfwriaeth rheoli mwg, gan gydgrynhoi deddfwriaeth o Ran 3 o Ddeddf Aer Glân 1993

·         Newid y drefn droseddu o droseddol i sifil

·         Mandadu cymhwyso gorchmynion rheoli mwg ym mhob ardal drefol sy'n bodloni meini prawf penodol

·         Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol adolygu ardaloedd rheoli mwg yn rheolaidd

·         Cynnwys hylosgi awyr agored o fewn ardaloedd rheoli mwg, gan gynnwys coelcerthi

·         Cyflwyno rhestr ar-lein o danwydd awdurdodedig i'w ddefnyddio mewn offer awyr agored

 

Stofiau llosgi coed – cyrraedd safonau newydd

·         Ers mis Ionawr 2022, rhaid i bob stof llosgi coed newydd fodloni safonau EcoDesign newydd

·         Dangosodd adroddiad Biwro Amgylchedd Ewrop (2021) fod Stofiau Eco Ewro-ardystiedig yn cynhyrchu 750 gwaith yn fwy o PM2.5 fesul uned o ynni na’r hyn a gynhyrchir gan HGV modern.

·         Bydd llosgi dim ond 1kg o bren yn llygru 500,000m ciwbiedig o aer hollol lân hyd at 10 μg/m ciwbiedig.

 

Llygredd aer dan do o stofiau

·         Dangosodd astudiaeth Sheffield fod PM2.5 yn uwch o 196.23 y cant mewn tai sy’n eu defnyddio yn aml o gymharu â defnyddwyr anaml.

·         Mae deunydd gronynnol yn gorlifo i ardaloedd dan do pan fydd drws y stôf yn agor.

 

Cyffredinol

·         Llosgodd 19.4 y cant o oedolion y DU danwydd solet yn eu cartref a/neu eu gardd yn ystod y flwyddyn cyn cael eu harolygu

·         Mae'r rhai sy'n llosgi dan do ac yn yr awyr agored yn fwy tebygol o fod ag incwm >£50,000 y flwyddyn

 

Llosgwyr dan do

·         Mae 68 y cant o losgwyr dan do yn byw mewn ardaloedd trefol

·         Dywedodd 58 y cant mai stofiau oedd y prif declyn a dim ond 31 y cant oedd yn llosgi ar danau agored

·         Mae pobl sy'n llosgi gyda systemau tanwydd solet ar gyfer eu gwresogi (11 y cant) yn fwy cyffredin mewn ardaloedd gwledig

·         Anaml y caiff gwastraff cartref ei losgi dan do

 

Llosgwyr awyr agored

·         Mae 82 y cant yn byw mewn ardaloedd trefol ac yn fwy tebygol o rentu eu heiddo

·         Coginio oedd y prif sbardun ar gyfer llosgi yn yr awyr agored – yn fwy cyffredin ymhlith teuluoedd iau cefnog trefol

o   Roedd 46 y cant yn llosgi siarcol

o   Llosgodd 15 y cant bren gwastraff

o   Llosgodd 14 y cant wastraff cartref

o   Llosgodd 12 y cant wastraff gardd

 

A yw llosgwyr yn ymwybodol?

·         Cytunodd 46 y cant o losgwyr dan do fod llosgi mewn cartrefi a gerddi yn ffynhonnell sylweddol o lygredd aer

·         Cytunodd 42 y cant o losgwyr awyr agored fod llosgi mewn cartrefi a gerddi yn ffynhonnell sylweddol o lygredd aer

·         Cytunodd 53 y cant o'r rhai nad oeddent yn llosgi bod llosgi mewn cartrefi a gerddi yn ffynhonnell sylweddol o lygredd aer

·         Nid oedd 32 y cant o losgwyr dan do mewn ardaloedd trefol yn gwybod a oeddent yn byw mewn ardal rheoli mwg

·         Nid oedd 29 y cant o losgwyr dan do a oedd yn credu eu bod yn byw mewn ardal rheoli mwg trefol yn byw mewn ardal o’r fath!

 

Sesiwn holi ac ateb

Gemma Roberts: Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnwys llawer o'r cynigion ynghylch llosgi domestig yn y Bil: beth yw eich barn am hynny fel datblygiad?

Mae angen tystiolaeth arnom. Byddai’n syndod pe na welem ehangu ar yr hyn a welsom yn y Papur Gwyn yn y Bil. Mae yna broblem wirioneddol gyda lefelau PM2.5 mewn ardaloedd trefol. O ran y gwahaniaethau rhanbarthol, mae'n hollbwysig ein bod yn edrych ar hynny o safbwynt deddfwriaeth.

 

Joseph Carter: A wyddoch chi am unrhyw enghreifftiau da o leoedd sydd wedi ennill y rhyfel cysylltiadau cyhoeddus ynghylch peryglon llosgi domestig?

Nid ydym yn gwybod am unrhyw rannau o'r byd sydd wedi ennill y frwydr hon. Gellid adolygu'r Ddeddf a dylai fod yn barhaus ac aros yn hyblyg.

 

Huw Brunt: Mae'r ffocws ar PM2.5 yn ddealladwy, ond wrth gwrs mae gan PM10 a PM2.5 sylfaen dystiolaeth gref fel rhai sy'n niweidiol i iechyd. A oes unrhyw werth mewn gwneud y gwahaniaeth hwnnw rhwng y ddau?

PM2.5 yw PM10 gan ei fod wedi'i gynnwys ynddo. Y crynodiad mwyaf helaeth o PM10 yw PM2.5. Mae geirio'r neges hon a'i chadw'n syml yn bwysig.

 

Huw Irranca-Davies: A yw tanwydd di-fwg yn cynhyrchu gronynnau hefyd?

Ydy.

 

 

5.       Rebekah Ahmed, Asthma + Lung UK – Cyflwyniad i Hyrwyddwyr Aer Glân

Y nod yw creu grŵp o ymgyrchwyr ifanc a chodwyr arian i fod yn eiriol dros aer glân.

Llygredd aer yw’r bygythiad mwyaf i iechyd y cyhoedd yn y DU. Mae'n effeithio ar bob un ohonom, ond i’r un plentyn o bob 11 sydd ag asthma, gall pob anadl fod yn frwydr.

 

Mae’r cynllun hyrwyddwyr aer glân yn fenter genedlaethol i fyfyrwyr ysgolion cynradd ddod yn llysgenhadon dros aer glân.

Mae gan y cynllun dri gweithgaredd y mae myfyrwyr yn eu cwblhau i ddod yn hyrwyddwyr aer glân:

-          Codi ymwybyddiaeth

-          Ymgyrchu

-          Codi arian

 

Gellir ymuno â’r cynllun yn rhad ac am ddim ac nid oes targedau ar gyfer cyfrannu – mae’n ymwneud â myfyrwyr yn codi cymaint ag y dymunant. Gallai £12 dalu am fonitor llygredd aer hanfodol; felly, pe bai myfyriwr yn codi £12, byddai’n gweld gwahaniaeth diriaethol.

 

Sesiwn holi ac ateb

Y Cynghorydd Jackie Charlton: yn byw mewn cymuned wledig, felly mae cludiant i’r ysgol yn bwysig iawn. Mae yna blant sy'n gymwys i gael cludiant i’r ysgol am ddim yn dod i'r ysgol mewn ceir preifat. Os ydych chi'n codi'r ymwybyddiaeth hon mewn ysgolion, a yw'n lleihau nifer y teithiau car? A allwch chi fesur hynny?

Mae'r cynllun yn ei ddyddiau cynnar iawn, felly mae'n anodd dweud ar hyn o bryd. Mae'n rhywbeth  maen nhw'n gobeithio gallu ei fesur.

 

Cam gweithredu: cysylltu â Rebekah wedyn ac ysgrifennu at Aelodau’r Senedd a’u swyddfeydd i’w hannog i gymryd rhan cyn y diwrnod aer glân.

 

Cam gweithredu: rhannu sleidiau Paul Lewis ag Aelodau o’r Senedd.

 

 

6.       Unrhyw faterion eraill

 

Cadarnhaodd Joseph Carter ein bod yn aros i’r Bil Aer Glân gael ei gyflwyno ym mis Mawrth ac mai dyma fyddai’r ffocws yn y cyfarfod nesaf, gan gynnwys meddwl am sut i ymgysylltu â phobl ifanc.

 

Diolchodd hefyd i Kate Lowther a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru am ddarparu ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Grŵp Trawsbleidiol.

 

 

UFA – Cadeirydd

Nid oedd unrhyw fater arall.

 

Y cyfarfod nesaf

26 Ebrill 2023 am 10.00.